Mae'r project, dan arweiniad Dr. Jessica Kevill, sy'n Firolegydd Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, wedi dod ag aelodau'r gymuned ynghyd dros y flwyddyn ddiwethaf i fonitro ansawdd d诺r a gollyngiadau carthion ar hyd Afon Conwy. Mae eu hymdrechion wedi rhoi darlun cliriach o iechyd yr afon, a chanlyniadau hyn ar iechyd y cyhoedd.
Fel rhan o鈥檙 digwyddiad, clywodd mynychwyr am y data sydd wedi鈥檌 gasglu - gan weld canlyniadau cyntaf ansawdd d诺r a gollyngiadau carthion o'r afon. Clywsant hefyd gan y t卯m 鈥 sy鈥檔 cael ei arwain gan Jessica Kevill yn ogystal ag ymchwilwyr y project, fu鈥檔 egluro beth mae'r canfyddiadau'n ei olygu i ddyfodol yr afon. Esboniodd ymchwilwyr y camau nesaf, gan annog gwirfoddolwyr a thrigolion i barhau i gymryd rhan weithredol mewn monitro a samplu yn Afon Conwy.
鈥淣id yw deall iechyd afon o safbwynt ecolegol a chemegol yn ddigon i amddiffyn iechyd y cyhoedd. Mae'r project hwn yn darparu ymchwiliad angenrheidiol iawn i bathogenau sy'n bresennol yn yr afon, a all ein gwneud yn s芒l. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu defnyddio i wella model ansawdd d诺r. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gymorth ein gwirfoddolwyr a chefnogaeth D诺r Cymru, a diolchwn am eu cymorth.鈥

Mae ein hafon yn rhan o'n cymuned; mae'n agos at ein calonnau. Rydym yn rhannu perthynas lle mae iechyd yr afon yn effeithio arnom ni a'n hiechyd yn effeithio ar yr afon. Mae'r ymchwil y mae Jessica, ei th卯m ymchwil a'n Gwyddonwyr Dinasyddion wedi creu, yn dangos sut mae monitro afonydd yn hanfodol i gynnal a diogelu iechyd ecolegol ac iechyd dynol.
Mae pawb wedi bod ar daith dysgu sydd wedi'i seilio'n ymarferol iawn. Rydym wedi datblygu sgiliau newydd, a thrwy ein hymgysylltiad a'n cyfranogiad yn y project hwn, rydym yn teimlo bod ein lleisiau o'r diwedd wedi cael eu clywed. Mae ein cydweithrediad gwyddonol, academaidd a chymunedol yn galonogol iawn ar gyfer arfer gorau yn y dyfodol, gan mai ein cyfrifoldebau ni i gyd yw gofalu am ein hamgylchedd ac mae angen meddwl a gweithredu ar y cyd.

Daeth y digwyddiad i ben gyda diolch i'r holl gyfranwyr a gwahoddiad i fwy o drigolion ymuno a'r ymdrech i ddeall rhagor am yr afon.
Os hoffech wybod am yr afon, cliciwch y ddolen i anfon ebost at yr ymchwilwyr.