Darparwyd cyfanswm o £3,000 mewn cyllid bwrsariaeth drwy Gyngor y Ddinas, gan ddenu 18 o gynigion cystadleuol o ansawdd uchel gan fyfyrwyr ledled y brifysgol. Ar ôl proses ddethol drylwyr, mae panel o gynrychiolwyr o Gyngor y Ddinas, y brifysgol, Undeb Myfyrwyr Bangor, ac M-SParc wedi dyfarnu pedair bwrsariaeth i brojectau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, pob un yn cynnig mewnwelediadau unigryw ac effaith bosibl ar gymuned Bangor a'r rhanbarth ehangach.
Y pedwar project llwyddiannus yw:
- Joseph Roy – Bangor fel labordy byw: Profiadau natur amlsynhwyraidd a'u heffaith ar lesiant trefol: Mae'r project arloesol hwn yn pontio gwyddoniaeth seicolegol sylfaenol â chymwysiadau therapiwtig ymarferol, gan ddefnyddio mannau gwyrdd Bangor i greu ymyriadau ar sail tystiolaeth i wella iechyd meddwl a lles cymunedol. I gydnabod potensial y project, dyfarnodd y panel yn unfrydol y £1,000 ychwanegol mewn cyllid cyfatebol gan M-SParc i Joseph i gefnogi datblygiad parhaus ei ymchwil.
- Charlotte Maloney – Môr clir: Darganfod bywyd cudd y Fenai o Bier Garth Bangor: Mae menter Charlotte yn dwyn ynghyd ymchwil academaidd, gwirfoddolwyr, a sefydliadau elusennol i gysylltu'r cyhoedd â bioamrywiaeth forol Afon Menai trwy addysg, allgymorth, ac adnoddau – gan feithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol ac ymgysylltiad cymunedol.
- Madison Ramsey – Datgelu straeon cudd Cadeirlan Bangor: Mae ymchwil Madison yn archwilio hanes cyfoethog a haenog Cadeirlan Bangor, gyda ffocws penodol ar arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol ei llyfrgell fenthyca – sydd ymysg yr hynaf yng Nghymru.
- Luke Lambert – Aneddiadau eglwysig canoloesol cynnar yng Nghymru yn ystod cyfnod o chwyldro, 700–1100: Mae ymchwil hanesyddol Luke yn ymchwilio i gyfnod cynnar bywyd eglwysig ym Mangor, gan archwilio sut aeth yr eglwys ati i addasu ac esblygu trwy gyfnod o newid mawr yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol.
Mae'r gronfa bwrsariaeth yn gydweithrediad rhwng Cyngor Dinas Bangor, Prifysgol Bangor (tîm ymgysylltu dinesig), Undeb Bangor, ac M-SParc. Gyda’i gilydd, nod y partneriaid hyn yw meithrin perthynas gref rhwng y brifysgol a’r ddinas, gan annog ymchwil sydd o fudd i’r gymuned leol a’r rhanbarth.
Dywedodd Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol ac Arweinydd Ymgysylltu Dinesig ym Mhrifysgol Bangor: "Mae'r rhaglen bwrsariaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ymgysylltiad dinesig a'r gwerth a roddwn ar ymchwil sy'n canolbwyntio ar y gymuned." Mae pob project a ddewisir yn dangos potensial clir i gyfoethogi dealltwriaeth, treftadaeth a lles lleol ac maent yn enghreifftiau gwych o sut y gall gwaith myfyrwyr gyfrannu'n ystyrlon at les diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol Bangor. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor y Ddinas am eu cefnogaeth ariannol i'r fenter hon, ac edrychwn ymlaen at weld y syniadau arloesol a'r ymchwil effeithiol a fydd yn deillio o'r cydweithrediad hwn.”
Dywedodd Dr Martin Hanks, Cyfarwyddwr y Ddinas yng Nghyngor Dinas Bangor: “Rydym ar ben ein digon o fod yn lansio’r project arloesol hwn. Mae'r posibilrwydd o ddarparu bwrsariaethau i fyfyrwyr, wrth iddynt ymgymryd ag ymchwil a fydd yn cynorthwyo Cyngor y Ddinas i wneud gwell penderfyniadau strategol, o fudd i bawb dan sylw. Fel hyn, bydd myfyrwyr yn cyfrannu'n uniongyrchol at gyfeiriad Bangor yn y dyfodol ac yn pontio'r bwlch rhwng astudiaethau academaidd a pholisïau lleol gwirioneddol. Mae'r fenter hon yn arddangosiad clir o'r berthynas symbiotig rhwng y brifysgol a'r gymuned leol, a hoffwn ddiolch i bawb a fu'n rhan o wireddu'r project.
Dywedodd Joseph Roy, Ymchwilydd PhD mewn Eco-seicoleg yn Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor: “Rwy’n wirioneddol ddiolchgar i Gyngor Dinas Bangor ac M-SParc am y gefnogaeth bwrsariaeth hon. Bydd yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu fy ymchwil ar dirweddau sain natur a lles dynol, gan ganiatáu i mi wella ansawdd yr astudiaeth, cysylltu â chynulleidfa ehangach, a rhannu'r wyddoniaeth yn ehangach gyda'r gymuned.”
Dywedodd Emily Roberts, Rheolwr Allgymorth a Chymuned yn M-SParc: “Roeddem eisiau sicrhau bod y fwrsariaeth yn cefnogi arloesedd ac yn caniatáu i’r derbynnydd fasnacheiddio syniad ymchwil, felly rydym yn falch y bydd project Labordy Byw Joseph yn derbyn £1,000 ychwanegol gan M-SParc. Bydd Joseph yn cael ei wahodd i'n gofod #ArYLôn ym Mangor i weithio gyda staff, derbyn cefnogaeth fusnes, cael mynediad at offer prototeipio, a chael mewnwelediad gwerthfawr gan ein tîm wrth i ni gefnogi'r project. Mae cefnogi myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor i fasnacheiddio syniadau arloesol yn y rhanbarth a chydweithio ar brojectau yn rhan o uchelgais M-SParc, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y project yn datblygu."
Bydd y pedwar project ymchwil yn cael eu cynnal dros y 12 mis nesaf a bydd canlyniadau’n cael eu rhannu â chymuned y brifysgol, Cyngor Dinas Bangor a rhanddeiliaid lleol y flwyddyn nesaf.