×îÐÂÂé¶¹Ó°ÒôÊÓÆµ

Fy ngwlad:

Hysbysiad Preifatrwydd

Hysbysiad Preifatrwydd: UNIGOLYN ARALL – Coleg Meddygaeth ac Iechyd, Prifysgol Bangor

Rhagarweiniad

Mae Coleg Meddygaeth ac Iechyd Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i ddiogelu eich data personol a bod yn dryloyw ynghylch sut rydym yn ei gasglu a'i ddefnyddio. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn trin data personol unigolion sydd wedi'u categoreiddio fel UNIGOLYN ARALL.

Rheolydd Data

Coleg Meddygaeth ac Iechyd Prifysgol Bangor yw’r Rheolydd Data ar gyfer y data personol a ddarparwch.

Manylion Cyswllt

Coleg Meddygaeth ac Iechyd
Cyfeiriad: Prifysgol Bangor, Gwynedd, Cymru, y Deyrnas Unedig, LL57 2UW
E-bost: psychsport@bangor.ac.uk
Ffôn: +44 (0)1248 383229

Swyddog Diogelu Data

Enw: Gwenan Hine (Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio)
Cyfeiriad: Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio, Gwasanaethau Corfforaethol, Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG
E-bost: info-compliance@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 382413

Diben Prosesu

Rydych yn unigolyn arall sydd â diddordeb ym Mhrifysgol Bangor os daeth eich gwybodaeth atom:

  • Trwy ffurflen cipio data a oedd yn rhan o ymgyrch benodol ar ein gwefan.
  • Oherwydd i chi fynd i arddangosfa neu ddigwyddiad lle'r oedd ein cynrychiolwyr yn bresennol a chafodd eich data ei roi i ni (megis mewn ffair recriwtio).
  • O wefan trydydd parti (enghraifft o hyn fyddai Unifrog, lle ceir sawl proffil am Brifysgol Bangor lle mae modd i chi nodi bod gennych ddiddordeb ym Mhrifysgol Bangor).
  • Gan bartner yr ydym yn ymddiried ynddynt, megis asiant recriwtio.

Os gwnaethoch roi eich gwybodaeth i ni ar ffurflen cipio data fel rhan o ymgyrch benodol ar ein gwefan, byddwch wedi cael gwybod am yr hysbysiad preifatrwydd hwn cyn cyflwyno'r ffurflen. Drwy gyflwyno'r ffurflen rydych yn cytuno i delerau'r hysbysiad preifatrwydd hwn. Wrth gyflwyno eich gwybodaeth drwy un o'n ffurflenni cipio data rydych yn cytuno eich bod dros 13 oed. Os ydych o dan 13 oed, gofynnwch i riant neu warcheidwad lenwi'r ffurflen ar eich rhan.

Yn achos pob unigolyn arall sydd â diddordeb ym Mhrifysgol Bangor y darparwyd eich gwybodaeth i ni drwy drydydd parti, byddwch wedi cael dolen i'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn y tro cyntaf i ni gyfathrebu â chi ar e-bost a phob tro yr ydym wedi cyfathrebu â chi ers hynny.

Pam fod arnoch eisiau fy nata a sut y byddwch yn ei ddefnyddio?

Os gwnaethoch chi gwblhau ffurflen cipio data fel rhan o ymgyrch benodol ar ein gwefan, fe wnaethoch hynny oherwydd y byddech yn hoffi cael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Bangor. Os cafodd eich data ei ddarparu i ni gan drydydd parti, y rheswm am hynny yw eich bod wedi dangos diddordeb ym Mhrifysgol Bangor. Byddwn yn prosesu eich data am y rhesymau canlynol:

Er mwyn bodloni unrhyw gais a wnaethoch yn ystod eich rhyngweithiad cyntaf â ni neu â'r trydydd parti sydd wedi casglu eich data ar ein rhan, megis er mwyn anfon ein prosbectws atoch, a/neu unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn ag astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio eich data i gael mewnwelediad i oedran, lleoliad daearyddol a dewis pynciau unigolion a allai fod â diddordeb mewn astudio ym Mhrifysgol Bangor.

Gall unigolion eraill sydd â diddordeb ym Mhrifysgol Bangor ddad-danysgrifio unrhyw bryd er mwyn peidio â derbyn rhagor o ohebiaeth oddi wrthym. Cysylltwch â ni yn psychsport@bangor.ac.uk neu

Beth yw eich sail gyfreithlon dros brosesu fy nata?

Os gwnaethoch lenwi ffurflen cipio data a oedd yn rhan o ymgyrch benodol ar ein gwefan, byddwn yn prosesu eich data ar sail Cydsyniad.

Os darparwyd eich data i ni gan drydydd parti, byddwn yn prosesu eich data ar sail Cydsyniad a/neu Fuddiant Dilys. Yn eich rhyngweithiad cyntaf â'r trydydd parti neu ag un o'n cynrychiolwyr, byddwch wedi cydsynio iddynt roi eich manylion i ni. Drwy roi eich data iddynt, byddech yn disgwyl yn rhesymol i ni ddefnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi i sôn am astudio ym Mhrifysgol Bangor – mae hyn o fudd i chi ac i ni. Mae ein Buddiannau Dilys yn cynnwys buddiannau masnachol a busnes, a bydd o fudd i chi ddysgu rhagor am astudio ym Mhrifysgol Bangor er mwyn ystyried gwneud cais.

Am ba hyd fyddwch chi'n defnyddio fy nata?

Dim ond hyd at y pwynt mynediad y mae gennych ddiddordeb ynddo y byddwn yn defnyddio eich data i gyfathrebu â chi. Os nad yw eich pwynt mynediad yn cael ei nodi, byddwn naill ai'n ffurfio barn ynglŷn â'ch tymor mynediad tebygol yn ôl y data a ddarparwyd (er enghraifft eich blwyddyn ysgol) neu'n rhagdybio bod gennych ddiddordeb yn y tymor mynediad nesaf. Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth ddienw i adrodd yn ddienw y tu hwnt i'r pwynt hwn.

Gyda phwy y bydd fy nata'n cael ei rannu?

Gellir rhannu eich data ag adrannau ac ysgolion academaidd eraill ym Mhrifysgol Bangor. Gwneir hynny at y dibenion canlynol yn unig:

Er mwyn ystyried, prosesu ac ymateb i unrhyw ymholiad / cais a wnewch am wybodaeth am Brifysgol Bangor.

  • Er mwyn cysylltu â chi i sôn am Brifysgol Bangor.
  • Er mwyn dysgu mwy am yr unigolion sydd â diddordeb ynom ni ac addasu ein ffordd o gyfathrebu i fodloni eich anghenion.

Bydd unrhyw adrannau ac ysgolion academaidd ym Mhrifysgol Bangor sy'n derbyn copi o'ch data yn ei brosesu yn unol â'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a Pholisi Diogelu Data Prifysgol Bangor.

Sail Gyfreithlon dros Brosesu

Rydym yn prosesu eich data personol yn seiliedig ar eich cydsyniad, yn unol ag Erthygl 6(1)(a) Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y Deyrnas Unedig). Gallwch dynnu’ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni yn psychsport@bangor.ac.uk.

Rhannu Data

Bydd eich data personol yn cael ei drin yn gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei rannu â thrydydd partïon y tu allan i Brifysgol Bangor oni bai bod y gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol neu gyda'ch cydsyniad penodol.

Eich Hawliau

O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y Deyrnas Unedig, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • Cael mynediad at eich data personol
  • Gofyn i gywiro data anghywir
  • Gofyn i ddileu eich data
  • Gwrthwynebu prosesu
  • Gofyn i drosglwyddo data
  • Tynnu cydsyniad yn ôl unrhyw bryd

I arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni yn psychsport@bangor.ac.uk neu cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data.

Cwynion

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei drin, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO):

- Gwefan:
- Ffôn: 0303 123 1113

Diweddariadau i'r Hysbysiad hwn

Efallai y byddwn yn diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd. Cyhoeddir unrhyw newidiadau ar y dudalen hon.