Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Wrth i effaith ddynol ar y byd naturiol ddwys谩u, mae angen cynyddol am reolwyr a all helpu i gydbwyso anghenion cymdeithas ag anghenion amgylchedd cynaliadwy. Bydd yr MA Rheolaeth ar gyfer Newid Hinsawdd, sydd 芒 ffocws cryf ar helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd, yn rhoi鈥檙 sgiliau a'r wybodaeth sydd arnoch eu hangen i wneud newidiadau go iawn ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy.
Mae cyfrifoldeb amgylcheddol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol wedi dod yn ffactor amlwg sy'n sbarduno galw gan ddefnyddwyr. Nid oes erioed wedi bod amser gwell i ddewis llwybr gyrfa sydd 芒'r potensial i wneud gwahaniaeth byd-eang.
Mae ein rhaglen meistr arloesol wedi'i chynllunio i ddatblygu sgiliau hanfodol ar gyfer cyflawni gweithgarwch economaidd cynaliadwy sy'n gysylltiedig 芒'r amgylchedd trwy integreiddio cynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol o fewn arferion busnes. Bydd astudio'r radd MA hon mewn Rheolaeth ar gyfer Newid Hinsawdd yn rhoi鈥檙 sgiliau ymarferol sydd arnoch eu hangen i asesu effaith ein gweithredoedd ac ysgogi newid cadarnhaol yn ein cymdeithas a'r byd naturiol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau diddorol ac amserol iawn gyda ffocws ar arferion busnes megis polisi a chyfraith newid hinsawdd, cyfiawnder gwleidyddiaeth amgylcheddol a newid hinsawdd, a chynllunio busnes ar gyfer economi werdd. Gan ddefnyddio astudiaethau achos ar draws amrywiaeth o sectorau, byddwch yn dysgu am strategaethau newidiol a鈥檙 dulliau amgen a ddefnyddir gan fusnesau i fynd i'r afael 芒 phroblemau sy'n gysylltiedig 芒 newid hinsawdd.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau gorfodol (100 credyd):
- Sefydliadau a Phobl (15 credyd)
- Rheolaeth Strategol Rhyngwladol (15 credyd)
- Cyllid i Reolwyr (15 credyd)
- Y Newid yn yr Hinsawdd a Gwleidyddiaeth Cyfiawnder yr Hinsawdd (20 credyd)
- Polisi a Chyfraith Newid Hinsawdd Rhyngwladol (20 credyd)
- Ymchwil Rheoli (15 credyd)
- Traethawd hir neu Projectau Busnes Cymhwysol (60 credyd)
Byddwch hefyd yn cymryd 20 credyd o fodiwlau dewisol a allai gynnwys:
- Rheolaeth Amgylcheddol Strategol (20 credyd)
- Globaleiddio a Newid Cymdeithasol (20 credyd)
- Cynllunio Busnes ar gyfer Econom茂au Gwyrdd (20 credyd)
- Technolegau Gwyrdd (20 credyd)
Syniad bras yn unig yw'r rhestr o'r modiwlau, ac fe allent newid.
Caiff y cwrs ei addysgu trwy gyfuniad o鈥檙 canlynol:
- Darlithoedd
- Seminarau
- Astudiaeth Unigol
- Gwaith gr诺p
- Siaradwyr gwadd
- Traethawd hir
- Projectau Busnes Cymhwysol
Mae'r dulliau addysgu a dysgu a ddefnyddir yn amrywio yn 么l pwnc a lefel y modiwl.
Bydd yr asesu鈥檔 cynnwys cymysgedd o鈥檙 canlynol:
- Arholiadau
- Profion dosbarth
- Traethodau/Adroddiadau
- Aseiniadau Gr诺p
- Cyflwyniadau
- Traethawd hir
- Projectau Busnes Cymhwysol
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig yw鈥檙 wybodaeth yma a gall newid.
Gofynion Mynediad
O leiaf 2.ii fel gradd israddedig neu gymhwyster cyfwerth mewn maes pwnc perthnasol (e.e. Astudiaethau鈥檙 Amgylchedd, Busnes, Gwyddorau Cymdeithas, Peirianneg, y Gyfraith).
Bydd ymgeiswyr sy鈥檔 meddu ar gymwysterau proffesiynol cyfwerth a/neu brofiad perthnasol yn y diwydiant, a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd, yn cael eu hystyried fesul achos. Cysylltwch 芒 ni am ragor o wybodaeth.
Sg么r IELTS o 6.0 (heb yr un elfen o dan 5.5), neu gyfwerth os nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
Gyrfaoedd
Trwy astudio'r radd MA hon mewn Rheolaeth ar gyfer Newid Hinsawdd, byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan amrywiaeth eang o gyflogwyr. Mae'r radd wedi'i chynllunio i'ch galluogi i atgyfnerthu gwybodaeth am gynaliadwyedd busnes a'r amgylchedd er mwyn ennill arbenigedd gyda ffocws penodol ar newid hinsawdd.
Byddwch yn meithrin sgiliau arweinyddiaeth ac ymchwil ochr yn ochr ag amrywiaeth o sgiliau proffesiynol a fydd yn eich helpu i ddatblygu busnesau, strategaethau a pholis茂au cynaliadwy o fewn y llywodraeth a'r sector preifat a鈥檙 sector gwirfoddol/anllywodraethol. Cewch eich annog i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi beirniadol a llunio dadleuon cydlynol ac adeiladol mewn ymateb i rai o'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu'r byd heddiw.
Os hoffech barhau 芒'ch astudiaethau, bydd y rhaglen hefyd yn eich helpu i baratoi i ymgymryd ag ymchwil doethurol mewn amrywiaeth eang o bynciau sy'n gysylltiedig 芒 gwyddor hinsawdd.
Mae llwybrau gyrfa nodweddiadol yn cynnwys swyddi gyda chyrff anllywodraethol ac ymgyngoriaethau cenedlaethol a rhyngwladol, llywodraethau, asiantaethau diogelu'r amgylchedd, elusennau, sefydliadau ymchwil, y sector cyllid gwyrdd, newyddiaduraeth a鈥檙 sector addysgu.
Ymhlith y gyrfaoedd nodweddiadol mae:
- Ymgynghori Amgylcheddol
- Rheoli Cynaliadwyedd
- Rheoleiddio a Pholisi Amgylcheddol
- Gwyddorau'r Amgylchedd
- Rheolwr Lleihau Carbon
- Arbenigwr Cyllid Gwyrdd