Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r modiwl yn ystyried troseddau ariannol a chudd-wybodaeth am farchnadoedd cyfalaf, a bancio preifat a gweithredu ar ran banc arall. Cyflwynir myfyrwyr i gysyniadau a dulliau rheoleiddio yn y tri chyd-destun, cyn dysgu am wahanol ddulliau a ddefnyddir i ganfod troseddau, lliniaru effaith a rhwystro ymddygiad o'r fath. Trafodir cynnyrch, rheoli risg a'r strwythurau sefydliadol ehangach sy'n berthnasol i bob sefyllfa. Gellir addasu'r is-sectorau bancio penodol o flwyddyn i flwyddyn yn dibynnu ar ddatblygiadau perthnasol yn y diwydiant.
Nodau ac Amcanion y Modiwl:
Mae'r modiwl yn rhoi archwiliad manwl o them芒u cyfredol mewn troseddau ariannol sy'n codi mewn gweithredu ar ran banc arall, bancio preifat a marchnadoedd cyfalaf. Ar gyfer pob lleoliad cyflwynir y myfyriwr i wybodaeth am gynnyrch a chyd-destun sefydliadol i alluogi gwerthusiad beirniadol o ganfod a lliniaru troseddau ariannol a gwyngalchu arian. Mae'r modiwl yn cynnwys astudiaethau achos o gamau goruchwylio diweddar ac enghreifftiau o setliadau ariannol a gafwyd gan sefydliadau na fu iddynt gydymffurfio.
Dulliau Dysgu
Mae Modiwlau Sengl yn cael eu cyflwyno trwy gyfrwng dysgu o bell ac yn rhan amser, lle gallwch chi astudio ar eich cyflymder eich hun, ni waeth ble rydych chi yn y byd. Darperir cyfuniad o ddosbarthiadau rhyngweithiol a darlithoedd wedi'u recordio trwy gydol y semester 6 mis, gan roi cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith i gyfranogwyr.
Blackboard yw'r amgylchedd dysgu rhithiol (VLE) a ddefnyddir gan Brifysgol Bangor lle mae pob modiwl yn elwa o faes pwrpasol yn y platfform lle cedwir yr holl adnoddau astudio. Mae adnoddau'n cynnwys canllawiau astudio, e-werslyfrau a mynediad i'r llyfrgell ar-lein.
Wybodaeth arall
Gellir gweld y tri llawlyfr cwrs a ddefnyddir ar y modiwl hwn trwy lwyfan ManchesterCF. Mae ManchesterCF yn ddarparwr hyfforddiant arbenigol mewn troseddau ariannol, ac yn diweddaru eu deunyddiau yn barhaus mewn ymateb i newidiadau mewn rheoleiddio. Bydd y deunyddiau'n archwilio cysyniadau damcaniaethol ac agweddau ymarferol gweithredu ar ran banc arall, bancio preifat a marchnadoedd cyfalaf i gyflwyno amrywiaeth eang o achosion yn y byd go iawn.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Uned 1 - FIU Connect Capital Markets
Uned 2 - FIU Connect Correspondent Banking
Uned 3 - FIU Connect Private Banking
Dulliau Asesu
Mae'r asesiad project bach ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio yn cynnwys dwy ran:-
- Ymchwil sy'n gofyn i'r myfyriwr nodi'r 'sefyllfa gyfredol' ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio yn eu meysydd gweithredu daearyddol ac o ran cynnyrch, ar gyfer pob un o鈥檙 tri phwnc yn y modiwl, ac asesu sut mae'r rhain yn cymharu 芒 datblygiadau yn y diwydiant yn fyd-eang (5500 o eiriau ac yn cynnwys 75% o bwysoliad modiwl).
- Gwerthusiad beirniadol o 'ymarfer gorau ar gyfer lliniaru risg' ar gyfer Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio fel y nodir yn y deunyddiau astudio a darlleniadau atodol, ar draws y tri thestun yn y modiwl (1500 o eiriau a phwysoliad modiwl o 25%).
Cost y Cwrs
Cost y cwrs hwn yw 拢3,400
Gofynion Mynediad
Wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol yng nghanol eu gyrfa sy'n gweithio yn y diwydiant ariannol neu reoleiddio. Rhoddir ystyriaeth i fynediad i unigolion sydd ag ychydig iawn o brofiad neu gymwysterau.
Gofynion Iaith Saesneg:
Rhaid i ymgeiswyr fod 芒 lefel uchel o ruglder yn yr iaith Saesneg. Os nad Saesneg yw eich iaith frodorol, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol bod gennych wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o Saesneg ysgrifenedig a llafar:
- IELTS: 6.0 (heb unrhyw elfen o dan 5.5)
- Pearson PTE: sg么r o 56 (heb unrhyw elfen yn is na 51)
- Prawf Saesneg Caergrawnt 鈥 Uwch: 169 (heb unrhyw elfen yn is na 162)
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn si诺r eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost rydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif er mwyn ei gadarnhau.
Ar 么l creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio Israddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Troseddau Ariannol yn y Diwydiant Bancio : y cod yw (ASB-9054). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster 么l-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word.
Os ydych yn cael eich ariannu , atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido:
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch 鈥榠e鈥 * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o鈥檙 cyllid. Os hoffech gadarnhau 鈥榠e鈥 i鈥檙 cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i鈥檞 uwchlwytho, gallwch uwchlwytho鈥檆h ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol.