×îÐÂÂé¶¹Ó°ÒôÊÓÆµ

Fy ngwlad:
Myfyrwyr y gyfraith yn cerdded ar draws y cwrt

Graddau Israddedig Y Gyfraith

Mae’r Gyfraith ym Mangor yn llwybr gwych i’r rhai sydd yn edrych ar yrfa yn y sector cyfreithiol fel Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr ac i’r rhai sy’n edrych am sgiliau trosglwyddadwy i weithio mewn diwydiannau eraill. Mae ein hacademyddion yn angerddol am y pynciau y maent yn eu haddysgu ac yn ysbrydoli myfyrwyr i wneud gwahaniaeth yn y byd.

Ar y dudalen hon:
Dechreuwch eich gyrfa yn y gyfraith

Os rydych am wneud cais ar gyfer cwrs yn dechrau ym Medi 2025, cymerwch olwg ar ein tudalen Sut i Wneud Cais.

 

Darganfyddwch gwrs yn Y Gyfraith i chi

Cyfraith Droseddol - LLB (Anrh)
Datblygwch sgiliau cyfreithiol a sgiliau eiriolaeth, ennill profiad yn y llys a dod i ddeall y system gyfreithiol. Dewch i ddatrys problemau cymhleth gydag ymarfer moesegol a pharatoi ar gyfer gyrfaoedd cyfreithiol amrywiol.
Cod UCAS
M212
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Gyfraith - LLB (Anrh)
Ymchwilio i egwyddorion cyfreithiol a dadansoddiadau beirniadol. Hogwch sgiliau eiriolaeth a sgiliau’r llys, byddwch yn gynheilydd ymarfer moesegol, a dilynwch yrfaoedd amrywiol yn y gyfraith neu ym maes polisi a gwasanaeth cyhoeddus.
Cod UCAS
M100
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith (Rhaglen garlam 2 flynedd) - LLB (Anrh)
Meistrolwch sgiliau cyfreithiol a datrys problemau trwy raglen ddwy flynedd ddwys. Enillwch brofiad yn y llys a pharatoi am gyfleoedd gyrfa amrywiol yn y gyfraith neu ym maes polisi ac eiriolaeth.
Cod UCAS
M101
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
2 Flynedd
Modd Astudio
Llawn Amser, Rhan Amser
Y Gyfraith (gyda Blwyddyn Sylfaen) - LLB (Anrh)
Adeiladwch sylfaen gyfreithiol i chi eich hun a dod i ddeall y system gyfiawnder. Enillwch sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwil trwy wneud blwyddyn sylfaen.
Cod UCAS
M10F
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
4 Blynedd
Modd Astudio
Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Chymdeithaseg - LLB (Anrh)
Dadansoddwch effaith y gyfraith ar gymdeithas. Archwiliwch faterion yn ymwneud â threfn a chyfiawnder cymdeithasol, meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwil.
Cod UCAS
M1L3
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Chymraeg - LLB (Anrh)
Dewch yn arbenigwr cyfreithiol dwyieithog yng Nghymru. Mae’r Gyfraith gyda Chymraeg yn eich paratoi am yrfaoedd cyfreithiol sy'n gofyn am ruglder yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cod UCAS
M1Q5
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Gwleidyddiaeth - LLB (Anrh)
Dewch i feistroli cydadwaith y gyfraith a gwleidyddiaeth. Dadansoddwch bolisïau, datblygwch sgiliau eiriolaeth, cymrwch ran mewn dadansoddiadau beirniadol.
Cod UCAS
M1L2
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Hanes - LLB (Anrh)
Archwiliwch esblygiad cyfreithiol mewn cyd-destunau cymdeithasol. Datblygwch sgiliau meddwl yn feirniadol a sgiliau ymchwil ar gyfer gyrfaoedd amrywiol ym maes y gyfraith a hanes.
Cod UCAS
M1V1
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Ieithoedd Modern - LLB (Anrh)
Pontiwch fydoedd cyfreithiol gydag ieithoedd. Dewch i feistroli arbenigedd cyfreithiol mewn nifer o ieithoedd, sgiliau negodi a sgiliau rhyngddiwylliannol.
Cod UCAS
M1R8
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Seicoleg - LLB (Anrh)
Astudiwch gyfraith trosedd ar y cyd â seicoleg fforensig neu gyfraith cwmnïau ynghyd â seicoleg defnyddwyr gyda'r cwrs LLB (Anrh.) Cyfraith gyda Seicoleg.
Cod UCAS
M1C8
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
Y Gyfraith gyda Throseddeg - LLB (Anrh)
Dewch i ddeall rôl y gyfraith mewn trosedd. Dadansoddwch ymddygiad troseddol, archwiliwch strategaethau atal a dewch i ddeall y system gyfiawnder.
Cod UCAS
M1M9
Cymhwyster
LLB (Anrh)
Hyd
3 Blynedd
Modd Astudio
Rhan Amser, Llawn Amser
SCROLL
SCROLL
Dau fyfyriwr a darlithydd yn eistedd o amgylch bwrdd gyda gliniaduron ar y ddesg yn sgwrsio â chleient yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol.
Fideo: Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor

Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor (BULAC)

Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol yn gyfle i chi roi’r hyn rydych wedi’i ddysgu ar waith. Siawns i wneud gwahaniaeth go iawn yn y gymuned mae'r clinig yn rhoi cyfle i fyfyrwyr cynnig cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau’r cyhoedd dan oruchwyliaeth cyfreithwyr cymwys.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded yn stryd fawr Bangor gydag amryw o gaffis a siopau yn y cefndir. Mae'r ddau fyfyriwr yn cerdded mewn i'r Clinig Cyfreithiol.

[TROSLAIS] Doedden ni ddim am i’r clinig fod ar ein campws roedden ni eisiau fo yng nghanol y gymuned leol ar stryd fawr Bangor.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r daflen Clinig Cyngor Cyfreithiol yn cael ei dal i fyny i'r camera gyda'r testun Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor, Clinig Cyngor Cyfreithiol Am Ddim a ddarperir gan fyfyrwyr y Gyfraith ym Mangor. Myfyriwr yn croesawu cleient i'r clinig cyfreithiol.

[TROSLAIS] Hyn sy’n gwneud i ni sefyll allan i gymharu â phrifysgolion eraill.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr yn siarad â'r camera. Yn waelod y sgrin ar yr ochor chwith mae testun yn ymddangos sy'n darllen Lois Nash, Darlithwyr yn y Gyfraith.

[TROSLAIS] Mae Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol Bangor yn galluogi ein myfyrwyr i roi cyngor cyfreithiol am ddim i aelodau o’r gymuned leol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn croesawu client i'r clinig cyfreithiol. Dau fyfyriwr yn eistedd o amgylch bwrdd gyda darlithwyr yn siarad gyda'r client yn stafell gyfarfod yn y clinig.

[TROSLAIS] Bydd cleient yn cael ei gyfweld gan ddau fyfyriwr wedi eu goruchwylio gan aelod o staff pob amser.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Nid oes unrhyw gyngor yn cael ei rhoi ar y diwrnod, ond mae’r myfyrwyr yn mynd i ffwrdd, yn gwneud eu hymchwil, ac yna’n ysgrifennu llythyr manwl i yrru yn ôl i’r cleient o fewn pythefnos.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r myfyrwyr o amgylch bwrdd yn y clinig. Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Mae’r profiad ymarferol mae’r myfyrwyr yn cael yn y clinig yn eu helpu i ddatblygu sgiliau na fysant yn eu cael y dosbarth yn arferol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr a dau fyfyriwr yn cymryd nodiadau ar y cyfrifiadur tra bod y client yn siarad yn y cefndir.

[TROSLAIS] Dyna pam fod cyflogwyr wrth eu boddau hefo clinig.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad â'r camera. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Eloïse Bordet, Myfyriwr Israddedig LLB yn y Gyfraith.

[TROSLAIS] I chose to take part in clinic because I wanted to gain practical experience.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cymryd nodiadau ar gyfrifiadur yn y clinig gyda darlithwyr hefyd yn cymryd nodiadau yn y cefndir.

[TROSLAIS] I wanted to apply the knowledge I’ve gained throughout my studies.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] I think it's a great environment to learn, it's really helpful for us students, but also for our community.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad â'r camera. Yn y gornel chwith isaf mae testun yn ymddangos yn darllen Tom Jarman, Myfyriwr Israddedig LLB yn y Gyfraith.

[TROSLAIS]I didn't think I’d be able to sit in front of people from the local area and ask them about their problems and interview them.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r ddau fyfyriwr yn y clinig. Myfyriwr Tom Jarman yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] That’s really improved through clinic and I think things like note taking, letter writing, which you don’t really get from your law degree, you do a lot of assignments and exams, but nothing really practical and I think it's really helped that side of things.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] As an international student, I was obviously kind of scared before starting but we do get a lot of support from Tracey, our supervising solicitor and from the university as well.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cerdded lawr stryd Bangor gydag amryw o siopau yn y cefndir.

[TROSLAIS] The clinic experience is going to make us more employable.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r darlithwyr a dau fyfyriwr yn y clinig cyfreithiol yn cymryd nodiadau ar y cyfrifiadur cyn bod myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] And it's really going to help in the future in any jobs that involve communication and legal research skills and legal writing skills as well.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Darlithwyr Lois Nash yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Mae ‘na fwlch yn y farchnad ar gyfer cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim yng Ngogledd Cymru.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Client yn siarad gyda'r myfyrwyr yn y clinig cyfreithiol.

[TROSLAIS] Yn ogystal, mae sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth (Citizens Advice) yn hynod o brysur, felly mae gwir angen clinig cyfreithiol fel hyn ar gyfer y gymuned leol.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr Eloïse Bordet yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] My advice would be to seize the opportunity, don’t be afraid to ask questions.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr a'r darlithwyr yn siarad gyda'r client yn y clinig cyfreithiol yn cymryd nodiadau ar y cyfrifiadur.

[TROSLAIS] The clinic is a great way to gain legal experience while helping the community.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Crest Prifysgol Bangor yn darllen Prifysgol ×îÐÂÂé¶¹Ó°ÒôÊÓÆµ.

Fideo: Holly Jones - Myfyriwr israddedig LLB Y Gyfraith

Myfyriwr israddedig LLB Y Gyfraith Holly Jones

"Oni wedi clywed llawer o bethau da am dan y cwrs dwi. Y rhan gora o’r cwrs ydi'r ffaith bod 'na myfyrwyr Cymraeg eraill ac yn y tiwtorialau da ni gyd yn gallu trafod am dân beth da ni ddysgu yn y darlithoedd yn y Gymraeg."

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad â'r camera gyda chefndir golygfaol o goed a phlanhigion yn y cefndir.

[TROSLAIS] Fy enw llawn ydd i Holly Alicia Jones. Dwi yn fy ail flwyddyn rŵan, a dwi'n astudio LLB Y Gyfraith.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Olygfa o brif adeilad y brifysgol cyn bod myfyriwr yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Wnes i ddewis Prifysgol Bangor am nifer o resymau, ond bysem yn dweud un o'r rhai mwyaf ydi'r ffaith bod 'na gymuned fach, felly mae pawb yn ffrindiau.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Grŵp o fyfyrwyr yn eistedd ar wal yn siarad a chwerthin gyda golygfa o ddinas Bangor yn y cefndir cyn bod myfyriwr yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Does dim byd rhy fawr, a hefyd achos oni wedi clywed llawer o bethau da, am dan y cwrs dwi wedi dewis.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae'r camera yn symud o'r dde i'r chwith yn dangos myfyrwyr yn eistedd mewn darlith cyn bod myfyriwr yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Swni ddweud y rhan gora o’r cwrs dwi wedi i ddewis ydi r ffaith bod 'na myfyrwyr Cymraeg eraill ac yn diwtorialau ni gyd yn gallu trafod am dân beth da ni ddysgu yn yr Lectures yn y Gymraeg.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn ymarfer yn y ffug llys. cyn bod myfyriwr yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Swni ddweud dwi'n mwynhau cael ffrae gyda phobl a dyna pam wnes i ddewis gyfraith mae'r Lectures o hyd yn gofyn i ni be da ni meddwl o’r gyfraith ac wedyn da ni'n gallu trafod ymysg ein gilydd ac mae hyn yn beth da.

[TROSLAIS] Y ffaith bod ni gyd yn gallu rhoi barn ein hunain mewn i'r cwrs.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn ymarfer pêl-droed Americanaidd ar gau ymarfer yn y brifysgol. Yn dilyn mae tri myfyriwr yn dawnsio gyda chefndir lliwgar o wal sydd gyda graffiti Cymraeg a Saesneg.

[TROSLAIS] Y cyngor bysem yn gallu rhoi i fyfyrwyr newydd yn dechrau'r flwyddyn yma ydi ewch i bethau.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn siarad â'r camera.

[TROSLAIS] Ewch i Serendipity a ewch i weld y clybiau a'r socieites gennych chi ddiddordeb mewn achos hynna ydi ffordd gora o neud ffrindiau efo pobl sydd efo un diddordeb a chdi.

[TROSLAIS] Paid methu allan ar y cyfleon mae'r prifysgol yn rhoi i chi.

[DISGRIFIAD GWELEDOL] Crest y Brifysgol sy'n darllen Prifysgol ×îÐÂÂé¶¹Ó°ÒôÊÓÆµ.

 Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yw’r asesiad canolog ar gyfer unrhyw un sydd am gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Mae’n rhan o lwybr pedwar cam i ddod yn gyfreithiwr.

Mae holl raddau LLB Bangor yn cynnwys paratoad at arholiadau cymhwyso cyfreithwyr. Mae hyn yn golygu bod ein graddau yn cynnwys llwybr sy'n eich galluogi i astudio'r deunydd sydd ei angen arnoch i sefyll arholiad cymhwyso cyfreithwyr (SQE). P’un a ydych yn dewis llwybr SQE ai peidio, mae ein holl raddau LLB yn mynd ymhellach, trwy gyfuno’r elfennau hyn i’ch paratoi at sefyll yr arholiad cymhwyso cyfreithwyr ag astudiaeth feirniadol ac academaidd o’r gyfraith i ddeall rhan y gyfraith mewn cymdeithas a mynd i’r afael â materion cyfreithiol cyfoes. Darperir hyn drwy'r modiwlau craidd a dewisol sydd ar gael ar gyrsiau gradd LLB Bangor.

O fis Medi 2021, yr arholiad cymhwyso cyfreithiwr (SQE) yw’r asesiad newydd y mae’n rhaid i’r rhai sy’n dymuno cymhwyso fel cyfreithiwr lwyddo ynddo. Mae hyn yn disodli'r radd gymhwyso yn y gyfraith a'r cwrs ymarfer cyfreithiol. Mae'r broses o gymhwyso fel bargyfreithiwr yn aros yr un fath.

Mae dwy elfen i'r SQE, sef SQE1 ac SQE2. Rhaid cwblhau SQE1 cyn SQE2.

Mae dwy elfen i SQE1, sef FLK 1 ac FLK2. Mae'r ddwy elfen yn rhoi eich dealltwriaeth o 'wybodaeth gyfreithiol weithredol' ar brawf, trwy 180 o gwestiynau amlddewis wedi eu rhannu'n ddwy sesiwn.

Mae FLK 1 yn profi'r meysydd pwnc isod;

  • Cyfraith ac Ymarfer Busnes
  • Datrys Anghydfodau
  • Contract
  • Camwedd
  • System Gyfreithiol Cymru a Lloegr.
  • Cyfraith Gyfansoddiadol a Gweinyddol a Chyfraith yr UE a Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae FLK 2 yn profi'r meysydd pwnc isod;

  • Ymarfer Eiddo
  • Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau
  • Cyfrifon Cyfreithwyr
  • Cyfraith Tir
  • Ymddiriedolaethau
  • Cyfraith ac Ymarfer Troseddol

Mae Moeseg ac Ymddygiad Proffesiynol yn cael eu cynnwys mewn modd 'treiddiol' ar draws FLK 1 ac FLK 2, sy'n golygu y gall godi mewn unrhyw gwestiwn.

Er mwyn llwyddo SQE1, rhaid cael marc llwyddo yn FLK1 a FLK2. Cynhelir yr asesiadau ym mis Ionawr a mis Gorffennaf bob blwyddyn.

Mae SQE2 yn asesiad seiliedig ar sgiliau sy'n cynnwys y sgiliau canlynol.

  • Cyfweliad cleient a nodyn presenoldeb/dadansoddiad cyfreithiol
  • Eiriolaeth
  • Dadansoddiad achos a mater
  • Ymchwil gyfreithiol
  • Ysgrifennu cyfreithiol
  • Drafftio cyfreithiol

Ym mhob un o raddau LLB Bangor, caiff myfyrwyr gyfle i brofi a dysgu'r sgiliau hyn ar draws y modiwlau craidd.

Ein hargymhelliad yw bod myfyrwyr, ar ôl cwblhau LLB Bangor, yn dilyn cwrs paratoi SQE byr, i baratoi at natur benodol arholiadau SQE1 ac SQE2.

I gael rhagor o wybodaeth am yr SQE, ewch i wefan y

Ystafell Ffug lys

Beth yw ffug lys?

Os ydych am astudio'r Gyfraith efallai eich bod wedi clywed am ffug lys, ond a ydych yn gwybod beth yw ffug lys? Ffug lys yw llys barn ffug lle mae dwy ochr yn dadlau pwynt cyfreithiol o flaen rhywun sy’n gweithredu fel barnwr. Bydd y barnwr wedyn yn penderfynu pwy yw'r enillydd unwaith y bydd wedi clywed cyflwyniadau gan y ddwy ochr.

Os ydych yn ystyried bod yn gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr mae sgiliau ffug lys yn rhai pwysig i'w cael. Mae astudio LLB yn y Gyfraith ym Mangor yn rhoi cyfle i chi ymarfer eich sgiliau ffug lys yn ein ffug lys ar y campws.

Mae cymryd rhan mewn ffug lys yn ffordd wych o ennill y sgiliau rydych eu hangen i fod yn gyfreithiwr. Mae'n helpu i ddatblygu sgiliau cyfreithiol, sgiliau dadansoddi a sgiliau dehongli. Bydd ymarfer mewn ffug lys yn eich helpu i ddod yn fwy hyderus ac adeiladu eich sgiliau personol o siarad cyhoeddus. Mae ymryson yn galluogi myfyrwyr i;

  • archwilio, dadlau a beirniadu meysydd a dadleuon cymhleth yn y gyfraith
  • gwella eu sgiliau eiriolaeth, ymchwil cyfreithiol ac ysgrifennu
  • gweithio’n agos gyda chyfoedion • ymarfer ymgysylltu â'r fainc a dod yn fwy hyderus wrth ddadlau eu hachos.
Fel ysgol lai, gallwn gynnig mwy o gyfleoedd ffug lys i fyfyrwyr na sefydliadau eraill. Bydd myfyrwyr y gyfraith ym Mangor yn dadlau achosion cyfreithiol ffug mewn sefyllfaoedd sy'n ymdebygu i achosion llys go iawn. Mae dau bâr o ddadleuwyr - yr Apelwyr a'r Atebwyr - yn dadlau'r achos o flaen 'barnwr', gan amlaf bydd yn ddarlithydd neu fyfyriwr ôl-radd. Nid y tîm sy'n ennill yr achos o anghenraid yw'r tîm buddugol, ond y tîm sy'n cyflwyno eu dadleuon cyfreithiol orau.

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gyfraith . 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gyfraith llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudioGyfraith ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gyfraith ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Cyn Fyfyriwr - Adam Steven Gulliver

Adam Gulliver

Ni ellir gorbwysleisio’r dylanwad a gafodd Bangor ar fy ngyrfa a fy mywyd. Roedd y ffordd y cyflwynwyd yr addysgu ym Mangor, ynghyd â'r gefnogaeth academaidd a bugeiliol ragorol a gefais, wedi caniatáu i mi ffynnu yn academaidd, ac arwain at ennill gradd Dosbarth Cyntaf. Rwy'n priodoli'r llwyddiant mawr hwnnw i raddau helaeth, nid yn unig i'm gwaith, ond hefyd i ymrwymiad ac ymroddiad y darlithwyr ac ansawdd cyffredinol Ysgol y Gyfraith ei hun.

Beth yw gradd LLB?

Mae'n debyg mai gradd LLB yw'r math mwyaf cyffredin o radd israddedig yn y gyfraith. Mae'n cael ei hastudio gan israddedigion sy'n dymuno ymarfer yn y gyfraith yn ogystal â'r myfyrwyr hynny sy'n mynd i mewn i broffesiynau eraill nad ydynt yn ymwneud â'r gyfraith yn y pen draw. Mae graddau LLB yn cael eu hystyried yn raddau trwyadl sy'n hyfforddi graddedigion at amryw o  gyfleoedd o ran gyrfa.

Mae'r LLB yn radd gymhwysol dros dair blynedd yn y gyfraith sy'n eich arwain at y cam nesaf o hyfforddiant yn y proffesiwn cyfreithiol. Cewch ddilyn llwybr Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr (SQE) ar gyfer cyfreithwyr neu'r BPTC ar gyfer bargyfreithwyr.

Bydd rhaglen LLB yn edrych ar wahanol feysydd o’r Gyfraith, gan gynnwys Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Contractau, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Tir a’r Deyrnas Unedig, Cyfraith Undeb Ewrop a Brexit. Fel rhan o'ch gradd LLB cewch ddewis modiwlau dewisol mewn meysydd y mae gennych ddiddordeb ynddynt ac y gallech fod am eu dilyn yn y dyfodol. Ym Mangor mae gan ein hacademyddion amrywiaeth o ddiddordebau o fewn y Gyfraith sy'n cynnwys pynciau megis Cyfraith Teulu a Lles, Cyfraith Chwaraeon, Cyfraith y Cyfryngau, Cyfraith Eiddo Deallusol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith a Thechnoleg, Cyfraith Amgylcheddol a Bywyd Gwyllt Mewn Perygl a Chyfraith Ryngwladol.

Mae hyn yn golygu bod ein graddau’n cynnwys llwybr sy'n eich galluogi i astudio'r deunydd sydd ei angen arnoch i sefyll Arholiad Cymhwysol Cyfreithwyr (‘SQE’).

Yn ogystal â chynnig sylfaen gadarn yn y gyfraith, mae graddau LLB Bangor hefyd yn adlewyrchu amgylchedd cyfreithiol yr 21ain ganrif trwy ganolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau cyfreithiol sydd eu hangen yn y Deyrnas Unedig, yn Ewrop ac yng ngweddill y byd.

Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (2022), cafodd Ysgol y Gyfraith ym Mangor sgôr boddhad myfyrwyr ardderchog o 84% yn y Gyfraith, sy’n adlewyrchu’r gefnogaeth ardderchog a roddir i fyfyrwyr ym Mangor ynghyd â’r dosbarthiadau llai o faint o’u cymharu ag ysgolion y gyfraith mwy ym Mhrydain.

Os hoffech astudio pwnc arall yn ychwanegol at y Gyfraith, ond eich bod hefyd am sicrhau eich bod yn astudio Gradd Gymhwysol yn y Gyfraith, dylech ystyried un o’n cyrsiau gradd 'Y Gyfraith gyda phwnc arall'.

Ein Hymchwil o fewn Y Gyfraith

Mae ein darlithwyr yn ymchwil-gynhyrchiol. Mae sawl aelod staff wedi gweithio'n flaenorol fel gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith mewn swyddi fel barnwyr, cyfreithwyr ac ynadon. Mae hyn yn golygu bod eich holl ddarlithwyr yn meddu ar wybodaeth arloesol yn eu meysydd pwnc. Pam fod hyn yn bwysig? Mae'n ein galluogi i fywiogi dysgu a rhoi'r syniadau diweddaraf i chi yn y dosbarth.

Ynghyd â'r cyfuniad cyfoethog hwn o gefndiroedd, mae ymchwil aelodau staff yn adlewyrchu diddordebau ac arbenigedd amrywiol mewn meysydd fel Cyfraith Hawliau Dynol, Cyfraith Ryngwladol, Cyfraith Cyllid Corfforaethol, Cyfraith Forwrol, Cyfraith Fasnachol, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Cwmnïau, Cyfraith Weinyddol, Cyfraith Plant a Theuluoedd a Chyfraith Eiddo Deallusol. 

 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.