Module XPC-4214:
Astudiaethau Pwnc Addysg Uwchr
Subject Studies 3 2025-26
XPC-4214
2025-26
School of Education
Module - Semester 1 & 2
30 credits
Module Organiser:
Emma Bishop
Overview
Mae鈥檙 modiwl hwn yn canolbwyntio ar gynnwys a gwybodaeth addysgeg eich pwnc arbenigol. Byddwch yn astudio pwysigrwydd mynd i鈥檙 afael ag anghenion dysgwyr o fewn y pedwar diben dysgu, a sut mae eich pwnc wedi鈥檌 leoli o fewn meysydd dysgu a phrofiad. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau ymholi ac yn ymchwilio i sut mae dysgwyr yn dysgu yn eich pwnc er mwyn datblygu fel athro myfyriol a all wella eich addysgu eich hun drwy ymchwilio eich ymarfer eich hun.
Mi fydd y modiwl yn cael ei gyflwyno drwy darlithoedd a Diwrnodau Cyfoethogi Pwnc.
Bydd AC yn astudio:
鈥mrywiaeth o ddulliau cyfredol sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth o addysgu'r pwnc arbenigol a meysydd cwricwlwm cysylltiedig, gan alluogi addysgu gwersi effeithiol yn eu cyd-destun. Caiff pob dull ei ddadansoddi o fewn cyd-destunau damcaniaethau dysgu cydnabyddedig.
鈥amcaniaethau ac egwyddorion asesu a sut maent yn cael eu cysylltu ag ymarfer o ran addysgeg, dysgu a syniadau ynghylch cynnydd o fewn y pwnc arbenigol a meysydd cwricwlwm cysylltiedig;
鈥atur a nodau'r meysydd pwnc arbenigol a chwricwlwm cysylltiedig o fewn cwricwlwm cenedlaethol Cymru, gan gynnwys rhaglenni astudio, manylebau TGAU a safon uwch, pontio rhwng gwahanol gyfnodau a, lle bo鈥檔 briodol, cymwysterau galwedigaethol;
鈥ut y gall llythrennedd, rhifedd a thechnoleg ddigidol ar draws y cwricwlwm gael eu datblygu a鈥檜 cymhwyso lle bo hynny鈥檔 berthnasol o fewn y pwnc arbenigol;
鈥ut y gellir datblygu a chymhwyso sgiliau llythrennedd, rhifedd, digidol a meddwl personol o fewn y pwnc arbenigol;
鈥ut y gall tiwtoriaid a mentoriaid pwnc arbenigol fodelu鈥檙 defnydd o鈥檙 Gymraeg o fewn cyd-destun ac o fewn y pwnc arbenigol. Bydd cyfle i ddatblygu鈥檙 defnydd o鈥檙 Gymraeg o fewn y pwnc arbenigol; o ddechreuwyr i siaradwyr rhugl sy鈥檔 dymuno gwella eu sgiliau ysgrifennu.
Bydd cynnwys a chyflwyniad y modiwl yn eich annog i ddadansoddi ymchwil addysgeg penodol eich pwnc. Byddwch yn dadansoddi ac yn myfyrio'n feirniadol ar ymchwil sy'n llywio ymarfer addysgu sy'n benodol i'r chwe MDaPh. Bydd y modiwl yn datblygu diwylliant o ymholiad ac yn pwysleisio pwysigrwydd cymryd rhan mewn Cymunedau Dysgu Proffesiynol. Byddwch hefyd yn gwneud ymholiad ar raddfa fach sy'n seiliedig ar eich ymarfer.
Assessment Strategy
Boddhaol (C) Bydd pob deilliant dysgu wedi'u cyflawni ar lefel foddhaol. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o gynnwys y modiwl yn cael ei gefnogi gan ystod foddhaol o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol foddhaol wrth fyfyrio ar ystod gyfyngedig o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio foddhaol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon foddhaol mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd.
Da (B) Bydd y rhan fwyaf o ganlyniadau dysgu wedi'u cynhyrchu ar lefel dda. Gall rhagoriaeth mewn rhai deilliannau dysgu wneud iawn am gyrhaeddiad boddhaol mewn eraill. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth dda o gynnwys y modiwl yn cael eu cefnogi gan amrywiaeth dda o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol da wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio da a byddant yn gallu cyfathrebu i safon dda mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd.
Ardderchog (A) Bydd y rhan fwyaf o'r deilliannau dysgu wedi'u cyflawni ar lefel ragorol. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o gynnwys y modiwl yn cael ei gefnogi gan ystod ardderchog o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol rhagorol wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio rhagorol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon ragorol mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd.
Learning Outcomes
- Cynllunio, gweithredu a gwerthuso鈥檔 feirniadol eich ymholiad ar raddfa fechan yn seiliedig ar ymarfer.
- Dadansoddi鈥檔 feirniadol natur a nodau eich pwnc arbenigol o fewn cwricwlwm cenedlaethol Cymru.
- Gwerthuso ac adlewyrchu鈥檔 feirniadol ar wersi sy鈥檔 cael eu llywio gan ymchwil ac egwyddorion addysgu a dysgu o fewn y pwnc a meysydd cwricwlwm cysylltiedig;
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Cynnig Ymchwil yr Ymholiad Proffesiynol gyda Ffurflen Moeseg. Bydd manylion pellach yn cael eu darparu yn llawlyfr y cwrs
Weighting
10%
Due date
11/03/2025
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Ymholiad Ymarferwr Am fanylion yr aseiniad, cyfeiriwch at lawlyfr y modiwl.
Weighting
55%
Due date
03/06/2025
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Summative
Description
Cyflwyniad Astudiaeth Gwers. Am fanylion yr aseiniad, cyfeiriwch at lawlyfr y modiwl.
Weighting
35%
Due date
14/01/2025